Y Pwyllgor Menter a Busnes |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 3 - y Senedd |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Mercher, 3 Hydref 2012 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:00 - 11:30 |
|
|||
|
|
||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
Nick Ramsay (Cadeirydd) Byron Davies Julie James Alun Ffred Jones Eluned Parrott David Rees Ken Skates Dafydd Elis-Thomas Joyce Watson |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
Neil Surman, Llywodraeth Cymru Jane Ellis, Llywodraeth Cymru |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
P Gareth Williams (Clerc) Leanne Hatcher (Dirprwy Glerc) Anne Thomas (Ymchwilydd) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Gareth Pembridge (Cynghorydd Cyfreithiol) Siân Phipps (Clerc) Kayleigh Driscoll (Dirprwy Glerc) |
|||
|
|
||||
1. Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
1.1 Dywedodd y Cadeirydd fod y Pwyllgor, yn ei gyfarfod blaenorol ar 27 Medi, wedi penderfynu cynnal y cyfarfod yn breifat, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42(v).
1.2 Croesawodd y Cadeirydd aelodau’r Pwyllgor a’r tystion i’r cyfarfod.
1.3 Dywedodd y Cadeirydd bod ymddiheuriadau wedi dod i law gan Keith Davies. Croesawodd y Pwyllgor Jenny Rathbone i’r cyfarfod, a oedd yn dirprwyo ar ei ran yn unol â Rheol Sefydlog 17.48.
2. Sesiwn friffio ar y Papur Gwyn ar Fil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru)
2.1 Cafodd y Pwyllgor friff technegol gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar Bapur Gwyn Bil Addysg Bellach ac Uwch (Cymru) ac atebasant gwestiynau gan aelodau’r Pwyllgor.
3. Ystyried y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol: Banc Buddsoddi Gwyrdd y DU
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Menter a Diwygio Rheoleiddio.
3.2 Nododd y Cadeirydd bod yn rhaid i’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad erbyn 1 Tachwedd 2012.
4. Ymchwiliad i brentisiaethau yng Nghymru: Trafodaeth ar yr adroddiad drafft
Cytunodd yr Aelodau ar yr adroddiad yn amodol ar nifer fach o ddiwygiadau.